Mae gweinidog materion cartref Rwsia yn dweud bod yr holl gyhuddiadau yn erbyn newyddiadurwr ymchwiliol a arestiwyd ar amheuaeth o ddelio â chyffuriau, wedi cael eu gollwng.

“Nid yw’r cyhuddiadau yn erbyn Ivan Golunov wedi cael eu profi”, yn ôl Vladimir Kolokoltsev.

Dywed fod Ivan Golunov wedi cael ei ryddhau, a’i fod ef yn bersonol yn bwriadu ceisio diswyddo tri uwch swyddog yr heddlu ac ymchwilio i bobol eraill fu’n ymwneud â’r achos.

Cafodd Ivan Golunov ei arestio ddydd Iau diwethaf, a’i ddal yn gaeth yn ei gartref ddydd Sadwrn.

Mae Ivan Golunov yn gwadu iddo fod â chyffuriau yn ei feddiant, ac mae nifer o bobol wedi’u cyflyru i feddwl bod y newyddiadurwr wedi cael ei fframio.