Mae arweinydd Iran wedi dweud bod yr Unol Daleithiau yn colli ei dylanwad ar wledydd y Dwyrain Canol.

Dyma araith gryfaf a mwya’ herfeiddiol Hassan Rouhani yn erbyn America.

Fe ddaeth ei sylwadau yn ystod cyfarfod ag aelodau ei gabinet fore heddiw (dydd Mercher, Mehefin 12), oriau’n unig cyn i’r brif weinidog Japan, Shinzo Abe, gyrraedd Tehran.

“O heddiw ymlaen, bydd y bygythiadau a’r pwysau yn colli eu capasiti a byddant yn dod i ben,” meddai Hassan Rouhani, gan gyfeirio at y ffaith i America dynnu allan o’r cytundeb niwclear ag Iran.

Mae’r tensiynau rhwng y ddwy wlad wedi cynyddu ers i’r Unol Daleithiau ddefnyddio cludwr awyrennau a bomwyr B-52 yng Ngwlff Persia.