Mae’r awdurdodau yn Ffrainc yn ymchwilio wedi i bum person gael eu harestio fel rhan o gynllwyn i ymosod ar safleoedd crefyddol.

Mae dau o bobol – un ohonyn nhw’n blentyn dan oed – eu dwyn i’r ddalfa a’u rhoi dan ymchwiliad o fod yn rhan o gymdeithas frawychol.

Mae tri o bobol eraill wedi’u harestio hefyd, fel rhan o ymchwiliad sy’n cael ei redeg yn Grenoble, de-ddwyrain Ffrainc.

Mae’r ymchwiliad yn dweud mai Moslemiaid neu Iddewon oedd targedau’r ymosodiadau honedig oedd yn cael eu cynllwynio. Ond fe ddaeth cadarnhad hefyd nad oes unrhyw gysylltiad â’r cynllwyn yn 2017 yn erbyn mosgiau a ffoaduriaid.