Mae chwe pherson wedi marw ar ôl i gerbyd taro bom ar ochr y ffordd yn ne Affganistan.
Yn ôl un o gynghorwyr rhanbarth Kandahar, roedd pob un o’r dioddefwyr yn perthyn i’r un teulu, ac yn cynnwys dau o blant, dwy ddynes a dau ddyn.
Does neb wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad, ond mae’r bai yn ael ei roi ar y Taliban, sy’n ymosod ar filwyr a swyddogion y llywodraeth yn gyson yn yr ardal.
Yn y cyfamser, mae llefarydd ar ran llywodraethwr rhanbarth Takhar yn y gogledd-ddwyrain, yn dweud bod milwyr wedi llwyddo i atal ymosodiad gan y Taliban ar wahanol fannau yn ardal Khoja Ghor.
Dywedodd fod tri o ymladdwyr y llywodraeth wedi eu lladd, yn ogystal â 15 gwrthryfelwr.