Mae cyrff wedi cael eu hadfer o weddillion llong a suddodd yn afon Donaw ym mhrifddinas Hwngari.

Mae craen enfawr a gweithwyr achub wedi bod wrthi ers ben bore heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11) yn codi’r llong a aeth i lawr ger Pont Margit, Bwdapest, ar Fai 29.

Fe fu’r ‘Hableany’ mewn gwrthdrawiad â llong bleser arall, a chafodd 19 o dwristiaid o Dde Corea a chriw o Hwngari eu lladd yn y digwyddiad.

Mae wyth o bobol yn dal i fod ar goll yn swyddogol.