Mae dynes 29 oed wedi marw wedi i graen syrthio ar adeilad o fflatiau yn Dallas yn ystod stormydd o fellt a tharanau.

Mae’r tywydd garw hefyd wedi ddad-wreiddio coed a gadael miloedd o bobol heb gyflenwad trydan yn y ddinas yn Tecsas.

Fe fu farw Kiersten Symone Smith, 29, ar ôl iddi gael ei chludo i’r ysbyty. Roedd y craen anferth wedi cwympo ar yr adeilad pum llawr lle’r oedd hi’n byw, gan chwalu rhai o’r fflatiau’n llwyr a throi garej gyfagos yn ddim ond twmpath o goncrid.

Fe gafodd pump o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad yn ystod cyfnod o dywydd garw yn Oklahoma a Tecsas.