Mae peilot wedi’i ladd mewn damwain hofrennydd ar un o adeiladau talaf Efrog Newydd.

Mae’n ymddangos fod yr hofrennydd wedi bod mewn gwrthdrawiad wrth lanio ar ben adeilad 750 troedfedd AXA Equitable, nid nepell o’r Rockefeller Centre a Times Square.

Mae’r awdurdodau yn dweud fod tân wedi cynnau wedi’r digwyddiad, a bod yr adeilad wedi ysgwyd wrth i’r hofrennydd lanio.

Does dim adroddiadau o neb arall wedi’i anafu yn y digwyddiad, a dyw hi ddim yn glir, chwaith, ar hyn o bryd, pa fath o hofrennydd ydi hi.

Mae fideos sydd wedi’u postio ar-lein gan lygad dystion, yn dangos cerbydau’r gwasanaethau brys yn y stryd islaw, ond dim difrod amlwg i’r adeilad.