Mae un o’r rheiny sy’n gobeithio herio Donald Trump yn 2020 wedi newid ei safiad ar erthyliad.

Mae Joe Biden yn gobeithio sefyll fel ymgeisydd y Democratiaid yn etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithiau flwyddyn nesaf.

Ond dros y diwrnodau diwethaf mae wedi cael ei feirniadu’n hallt gan grwpiau menywod am gefnogi ‘Gwelliant Hyde’.

Mae’r gwelliant yma yn golygu nad oes modd talu am erthyliadau ag arian cyhoeddus – gan eithrio achosion o losgach neu o dreisio.

Bellach mae Joe Biden wedi datgan ei fod yn gwrthwynebu’r gwelliant am ei fod yn effeithio menywod difreintiedig yn bennaf.

“Dw i wedi bod yn ystyried y problemau mae Hyde bellach yn ei gynnig,” meddai wrth annerch aelodau’i blaid, gan ategu bod “amgylchiadau wedi newid”.