Mae disgwyl i’r cerddor, R Kelly, bledio’r ddieuog wrth iddo ymddangos mewn llys yn Chicago i wynebu 11 achos o ymosodiadau rhyw.

Daw’r gwrandawiad yn Llys Cook County heddiw (dydd Iau, Mehefin 6) wythnos wedi i erlynwyr gyhoeddi’r cyhuddiadau newydd, sy’n cynnwys pedwar ymosodiad rhyw troseddol difrifol.

Mae pob un o’r rhain yn cario lleiafswm o 30 mlynedd yn y carchar.

Fe blediodd R Kelly yn ddieuog i ddeg achos o’r math ar Chwefror 10 eleni, a hynny yn ymwneud â thair merch a dynes dros gyfnod o tua deng mlynedd yn y 1990au.

Yn ôl cyfreithiwr Kelly, Steve Greenberg, mae un o’r cyhuddiadau newydd yn ymwneud ag un o’r merched a ddygodd gyhuddiad yn ei erbyn ym mis Chwefror.

Mae R Kelly yn gwadu pob un o’r cyhuddiadau, ac yn dweud ei fod yn disgwyl ennill unrhyw achos sy’n cael ei ddwyn yn ei erbyn.