Bydd yr Unol Daleithiau yn gosod tariff ar nwyddau o Fecsico gyda’r nod o ddatrys “problem mewnfudo anghyfreithlon”.

Mewn neges ar Twitter, mae’r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd y tariff o 5% yn dod i rym ar Fehefin 10.

Mae hefyd wedi datgan bod y ganran yn mynd i godi yn raddol – hyd at 25% – tan fod y “broblem” honedig yn dod i ben.

Yn ôl Donald Trump, dyw llywodraeth Mecsico ddim wedi gwneud digon i rwystro mewnfudwyr o wledydd gan gynnwys El Salvador, Honduras a Guatemala.

Mae’r cyhoeddiad wedi drysu rhai gan fod Donald Trump wedi diddymu trethi ar ddur o Mecsico lai na phythefnos yn ôl.