Mae merch newydd anedig sy’n pwyso yr un faint ag afal yn cael ei hystyried y baban lleiaf yn y byd.

Mae ysbyty yn San Diego yn yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau genedigaeth y ferch, a oedd yn pwyso 8.6 owns (245g) pan gafodd ei geni ym mis Rhagfyr y llynedd.

Fe aned yr un bach dri diwrnod a 23 wythnos ar ôl i’w mam feichiogi, ac roedd doctoriaid wedi rhybuddio’r tad bod ganddo awr i weld ei ferch cyn y bydd yn marw.

Ond er syndod iddyn nhw, fe oroesodd Saybie ac erbyn hyn – bum mis yn ddiweddarach – mae’n pwyso 2kg.