Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi arestio dau berson sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â ffrwydrad yn Lyon wythnos ddiwethaf pan gafodd 13 o bobl eu hanafu.

Dywedodd maer Lyon, Gerard Collomb, bod un o’r rhai gafodd eu harestio yn fyfyriwr TG.

Roedd yr heddlu wedi lansio ymchwiliad ar ôl i ddyfais ffrwydro ddydd Gwener ger stryd brysur yn y ddinas. Yn ôl yr awdurdodau roedd y rhai gafodd eu hanafu wedi cael man anafiadau yn bennaf.

Roedd yr Arlywydd Emmanuel Macron wedi disgrifio’r ffrwydrad fel “ymosodiad” ond nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yn hyn.

Mae ymchwiliad wedi dechrau i ymgais “i geisio llofruddio mewn cysylltiad â gweithred frawychol.”