Mae tri o bobol wedi cael eu lladd mewn dau ffrwydrad yn Kathmandu, prifddinas Nepal.

Cafodd o leiaf bump o bobol eu hanafu.

Mae lle i gredu mai cyn-aelodau o blaid gomiwnyddol y wlad oedd yn gyfrifol, wrth iddyn nhw brotestio yn erbyn arestio eu haelodau.

Cafodd dau o bobol eu lladd a phedwar eu hanafu yn y ffrwydrad cyntaf yng ngogledd y ddinas, ac fe gafodd un arall ei ladd ac un ei anafu mewn ail ffrwydrad yng nghanol y ddinas tua awr yn ddiweddarach.

Cafodd yr heddlu hyd i bamffledi gwleidyddol wrth chwilio eiddo yn dilyn y ffrwydradau.