Mae o leiaf ddau o bobol wedi marw yn dilyn tornado yn nhalaith Oklahoma yn yr Unol Daleithiau.

Fe ddinistriodd westy, ac fe achosodd gryn ddifrod i barc cartrefi modur yn El Reno.

Mae’r awdurdodau’n ceisio rhoi gwybod i deuluoedd y rhai fu farw, ac mae’r ymdrechion i achub rhagor o bobol yn parhau.

Mae nifer o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty yn Ninas Oklahoma.

Mae tornados, glaw trwm a llifogydd wedi taro rhannau helaeth o’r dalaith a thaleithiau eraill dros yr wythnos ddiwethaf.