Mae disgwyl i Narendra Modi aros yn brif weinidog India ar ôl i’w blaid, y Bharatiya Janata, ei ethol yn arweinydd unwaith eto.

Enillodd y blaid yn etholiadau diweddar y wlad, sy’n golygu y bydd y prif weinidog yn cael pum mlynedd arall wrth y llyw.

Cafodd enw’r arweinydd ei gyhoeddi yng nghyfarfod y blaid yn Delhi Newydd heddiw (dydd Sadwrn, Mai 25).

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, mae’r BJP wedi ennill 303 allan o 542 o seddau’r wlad.

Enillodd y brif wrthblaid, y Gyngres Genedlaethol, 52 o seddau.

Mae disgwyl i Narendra Modi dyngu llw ddydd Iau (Mai 30).