Mae’r Pab Ffransis wedi cymharu erthylu gyda chyflogi bradlofrudd mewn sylwdau tanllyd.

Mae’n dweud nad oes yna fyth gyfiawnhad dros erthylu, hyd yn oed pan fo ffetws yn ddifrifol wael neu pan fydd gan y plentyn anableddau difrifol.

Mae’n annog meddygon ac offeiriaid i gefnogi teuluoedd i roi genedigaeth beth bynnag am amgylchiadau’r ffetws.

Daeth ei sylwadau yn ystod cynhadledd wrth-erthylu yn y Fatican.

“A yw’n gyfreithlon taflu bywyd i ffwrdd er mwyn datrys problem?” meddai.

“A yw’n gyfreithlon cyflogi bradlofrudd i ddatrys problem?”

Er ei sylwadau yn erbyn erthylu, mae’n dweud ei fod yn cydymdeimlo â menywod sydd wedi gorfod erthylu, gan ddweud ei bod yn haws maddau iddyn nhw oherwydd eu hamgylchiadau.