Fe fydd Brenhines Loegr yn croesawu Donald Trump, srlywydd yr Unol Daleithiau, i Balas Buckingham fel rhan o’i ymweliad swyddogol â gwledydd Prydain y mis nesaf.

Mae rhai gwrthwynebwyr yn dadlau na ddylai Donald Trump fod wedi cael croeso swyddogol yn ystod ei ymweliad.

Y digwyddiadau

Ond fe fydd ef a’i wraig, Melania, yn cael cinio yn y palas ar ddydd Llun, Mehefin 3.

Bydd hefyd yn cael te gyda Thywysog Charles a Duges Cernyw yn Clarence House, ac yn cynnal trafodaethau â Theresa May, prif weinidog Prydain yn Downing Street cyn mynd i Balas Buckingham ar gyfer gwledd.

Bydd y Frenhines, Charles a Camilla yn ei groesawu’n ffurfiol ar ddiwrnod cyntaf ei ymweliad.

Bydd yr Arlywydd yn derbyn saliwt yn Green Park ac yn Nhŵr Llundain cyn ymweld ag oriel luniau ym Mhalas Buckingham.

Bydd ef a’i wraig hefyd yn ymweld ag Abaty Westminster, lle bydd yn gosod torch o flodau ar fedd y milwr di-enw.

Bydd yn cyd-gynnal brecwast ym Mhalas St James ar Fehefin 4, cyn teithio i Stryd Downing am drafodaethau, lle bydd cynhadledd i’r wasg yn dilyn.

Bydd cinio yn y nos yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Nhŷ Winfield.

Y diwrnod canlynol, bydd digwyddiad 75 mlynedd ers glaniadau D-Day yn Portsmouth, lle bydd y Frenhines yn ffarwelio â Donald a Melania Trump yn swyddogol.