Mae India wedi dechrau cyfri pleidleisiau etholiad cyffredinol sydd wedi cymryd chwe wythnos i’w gynnal.

Ar hyn y bryd mae’n ymddangos bod plaid y Prif Weinidog, Narendra Modi, yn ennill y ras i gael pum mlynedd arall mewn grym, wedi i 600 miliwn o bobol India fwrw eu pleidlais.

Mae data’r Comisiwn Etholiadol bore heddiw (Dydd Iau, Mai 23) yn dangos bod plaid y cenedlaetholwyr Hindw, Bharatiya Janata, yn arwain mewn 292 allan o 542 o seddi yn y Senedd, tra mae’r brif wrthblaid, Cyngres Genedlaethol India, ar 50 sedd.

Nid yw’r data yn dangos y canran o bleidleisiau sydd wedi cael eu cyfri ac mae disgwyl i’r canlyniad gael eu cyhoeddi heno.

Mae’r etholiad wedi cael ei weld fel refferendwm ar Narendra Modi sydd wedi gweld canlyniadau cymysg yn dilyn ei ddiwygiadau economaidd ond mae’n parhau i weld yn boblogaidd ymhlith pobol India.