Mae Canghellor Awstria, Sebastian Kurz, yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yr wythnos nesaf ar ôl i’w lywodraeth glymbleidiol gael ei chwalu gan honiadau o dwyll.

Mae llefarydd y tŷ, Wolfgang Sobotka, sy’n aelod o blaid geidwadol Sebastian Kurz – Plaid y bobol – wedi cadarnhau y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ddydd Llun (Mai 27).

Roedd aelodau o’r wrthblaid yn awyddus i gynnal y bleidlais yr wythnos hon, ond fe fynnodd y Canghellor y byddai hynny’n amharu ar gyfnod ymgyrchu etholiad Ewrop.

Daw’r galwadau i ddisodli Sebastian Kurz yn sgil cyhoeddi fideo ohono’n cynnig ffafrau i fuddsoddwr o Rwsia mewn cyfarfod ar ynys Ibiza ddwy flynedd yn ôl.

Mae disgwyl etholiad cyffredinol cynnar yn Awstria ym mis Medi, wedi iddo gael ei alw oherwydd ymddiswyddiad arweinydd y Blaid Rhyddid, Heinz-Christian Strache, fel Is-Ganghellor.