Mae rhai o wleidyddion Catalwnia, sydd wedi treulio cyfnod dan glo wrth iddyn nhw aros i fynd o flaen eu gwell, wedi cael eu rhyddhau am gyfnod byr er mwyn cymryd eu seddi yn senedd Sbaen.

Cafodd yr etholiad cyffredinol ei gynnal ddiwedd mis Ebrill, gyda’r Sosialwyr, o dan arweiniad Pedro Sanchez, yn cipio’r nifer fwyaf o seddi yng Nghyngres y Dirprwyon, ond dim digon i ffurfio llywodraeth ei hun.

Yn ystod yr un etholiad, fe lwyddodd y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia i gipio 22 o seddi rhyngddyn nhw.

Wrth gymryd ei seddi yn y Gyngres, fe gafodd pedwar gwleidydd o Gatalwnia, gan gynnwys cyn-ddirprwy arlywydd y rhanbarth, Oriol Junqueras, eu cludo i mewn gan yr heddlu.

Mae’r pedwar yn wynebu achos llys yn dilyn eu rhan yn ceisio sicrhau annibyniaeth i Gatalwnia yn 2017.

Fe gafodd gwleidydd arall, sef Raul Romeva, cyn-aelod o Gabinet Llywodraeth Catalwnia, ei gludo o garchar y tu allan i Madrid er mwyn cymryd ei sedd yn y Senedd..

Roedd yr uchel lys yn Sbaen wedi caniatáu eu rhyddhau er mwyn bod yn rhan o sesiynau agoriadol y senedd, ond mae’n annhebygol y byddan nhw’n cael mynychu cyfarfodydd pellach.