Mae bom ar ymyl ffordd yn yr Aifft wedi taro bws yn llawn twristiaid yn yr Aifft, gan anafu 16 o bobol.

Fe ddigwyddodd yn ardal pyramidiau Giza, ac mae’r bysedd yn pwyntio at wrthryfelwyr Islamaidd sydd wedi bod yn gweithredu yn ardal Penrhyn Seinai ers rhai blynyddoedd.

Yn ddiweddar, maen nhw wedi ymledu i’r tir mawr, ac wedi bod yn targedu Cristnogion a thwristiaid.

Fe ddaw’r ymosodiad diweddara’ hwn wrth i’r diwydiant twristiaid yn yr Aifft ddechrau cael ei draed dano unwaith eto yn dilyn y terfysg a’r gwrthdaro gwleidyddol sydd wedi bod ers i’r cyn-arweinydd, Hosni Mubarak, gael ei hel o’i swydd yn ystod protestiadau democratiaeth gwanwyn 2011.