Mae’r cyngor milwrol sy’n rheoli Sudan, yn cyfarfod gyda phrotestwyr er mwyn trafod y modd y bydd y wlad yn ymdrin â’r newidiadau gwleidyddol.

Daw hyn wedi i drafodaethau ddod i ben ganol yr wythnos ddiwethaf, ac i ffyrdd gael eu clirio y tu allan i’r brifddinas, Khartoum.

Mae’r ddwy ochr wedi cynnal sawl rownd o drafodaethau ers i’r fyddin gael gwared â’r arlywydd, Omar al-Bashir, y mis diwethaf, gan ddod â’i 30 mlynedd o reolaeth i ben. Cyn hynny, fe fu misoedd o brotestiadau, ac mae’r rheiny’n parhau.

Mae’r fyddin a’r protestwyr yn cael eu beio am ymosod ar bobol sy’n dal yn ffyddlon i’r cyn-arlywydd.