Mae Is-ganghellor Awstria wedi ymddiswyddo ar ôl cael ei ddal ar gamera yn gwneud addewidion llwgr.

Mae dau o bapurau newydd yn yr Almaen wedi cyhoeddi fideo o Heinz-Christian Strache yn addo contractau llywodraeth i ddynes o Rwsia a oedd yn honni bod ganddi arian mawr i’w fuddsoddi yn Awstria.

Mae Heinz-Christian Strache yn honni bod y fideo yn ymgais fwriadol i’w bardduo, ond mae’n cydnabod bod ei ymddygiad yn “ffôl, anghyfrifol ac yn gamgymeriad”.

Ar y fideo, mae Herr Strache i’w glywed yn dweud wrth y ddynes y gallai ddisgwyl contractau adeiladu gwerthfawr pe bai hi’n prynu papur newydd Awstriaidd ac yn cefnogi ei blaid asgell dde wrth-fewnfudo.

Mae’r sgandal wedi arwain at ddyfalu am ddyfodol clymblaid llywodraeth Awstria rhwng y blaid honno a phlaid fwy cymedrol y Canghellor Sebastian Kurz.