Mae’r gorsafoedd pleidleisio wedi agor yn Awstralia mewn etholiad cyffredinol a all arwain at ethol chweched prif weinidog y wlad mewn chwe blynedd.

Mae’r arolygon barn yn awgrymu y bydd y glymblaid geidwadol o dan blaid Ryddfrydol y wlad yn colli grym i’r blaid Lafur.

Dyw’r prif weinidog presennol, Scott Morrison, ond yn ei swydd ers mis Awst y llynedd, ac ef yw’r trydydd prif weinidog ers i’r glymblaid bresennol ddod i rym yn 2013. Yn y flwyddyn honno, collodd y blaid Lafur o dan arweiniad Kevin Rudd ychydig fisoedd ar ôl iddo ddisodli’r Gymraes Julia Gillard fel prif weinidog.

Mae arweinydd presennol Llafur, Bill Shorten, wedi bod yn ymgyrchu dros amryw o ddiwygiadau cymdeithasol a thargedau mwy uchelgeisiol i dorri ar nwyon tŷ gwydr.