Y gantores bop Lady Gaga yw’r seren ddiweddara’ i gondemnio cyfraith newydd lym i wahardd erthylu bron yn llwyr yn nhalaith Alabama yn yr Unol Daleithiau.
Mae hi’n dweud bod y bwriad yn “warth” ac mae’r actores Courtney Cox, sy’n dod o Alabama, yn dweud ei bod “wedi dychryn ac yn ofnus”.
Yn ôl seren y gyfres deledu Friends, mae angen ymgyrchu i’r pen yn erbyn y bwriad – “Allwn ni ddim cymryd cam yn ôl.”
Dim eithrio treisio na llosgach
Fe bleidleisiodd Senedd Alabama o 25 i 6 o blaid deddf a fyddai’n gwahardd erthylu, hyd yn oed mewn achosion o drais a llosgach. Yr unig eithriad fyddai peryg difrifol i iechyd y fam.
Fe all doctoriaid sy’n cynnal erthyliadau wynebu 99 blynedd yn y carchar – y gosb eithaf i drosedd Dosbarth A.
Os bydd llywodraethwr y dalaith yna rwyddo;r ddeddf, fed daw i rym ymhen chwech mis a phryder y gwrthwynebwyr yw y gallai osod cynsail cyfreithiol ar gyfer gweddill yr Unol Daleithiau.
Meddai Lady Gaga
“Mae yna gosb uwch i feddygon sy’n cyflawni’r gweithrediadau hyn na’r rhan fwyaf o dreiswyr,” meddai Laldy Gaga.
“Dw i’n gweddïo dros yr holl ferched a merched ifanc hyn sy’n dioddef yn nwylo’r system hon.”