Mae cennad y Cenhedloedd Unedig yn y Dwyrain Pell yn rhybuddio mai nawr yw’r “cyfle olaf” i atal rhyfel rhwng ymladdwyr Israel a Gaza.

Dywed Nikolay Mladenov fod y “risg o ryfel yn parhau i fod yn sicr,” wythnos wedi i gadoediad rhwng Israel ac arweinwyr Hamas yn Gaza orffen gyda’r ymladd gwaethaf ers rhyfel 2014.

Cafodd 25 o Balestiniaid eu lladd, gan gynnwys 10 ymladdwr a phedwar o ddinasyddion Israel.

Wrth lansio gorsaf ynni solar ar gyfer ysbyty Gaza, dywed Nikolay Mladenov fod yn rhaid i’r ddwy ochr “gyfuno dealltwriaeth,” i gytundeb y cadoediad.

Mae’r cytundeb, gafodd ei lunio gan yr Aifft, Qatar a’r Cenhedloedd Unedig, yn addo cymorth dyngarol ac i hwyluso symudiad pobol o’r diriogaeth.