Mae disgwyl i erlynwyr yn Sweden gyhoeddi a fyddan nhw’n ail-agor achos o dreisio honedig yn erbyn sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, fis ar ôl iddo gael ei symud o lysgenhadaeth Ecuador yn Llundain.

Fe fydd Eva-Marie Persson, dirprwy gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus Sweden, yn cynnal cynhadledd newyddion bore ma (dydd Llun, Mai 13).

Os yw’n penderfynu ail-agor yr achos, fe fydd yn rhaid i’r Deyrnas Gyfunol benderfynu a fydd yn estraddodi Julian Assange i Sweden neu’r Unol Daleithiau.

Roedd erlynwyr yn Sweden wedi gwneud cyhuddiadau cychwynnol yn erbyn Julian Assange ar ôl iddo ymweld â’r wlad yn 2010.

Saith mlynedd yn ddiweddarach cafodd yr achos o gamymddwyn rhywiol honedig ei ollwng ar ôl i’r cyfnod i’w erlyn ddod i ben.

Roedd hynny’n gadael honiad o dreisio ond nid oedd yn bosib cyflwyno’r achos tra bod Julian Assange yn byw yn y llysgenhadaeth. Mae statud y cyfyngiadau yn yr achos hwnnw yn dod i ben ym mis Awst 2020.