Mae protest wedi’i chynnal yn Tirana, prifddinas Albania, yn erbyn llywodraeth asgell chwith y wlad.

Fe fu protestwyr yn gwrthdaro â’r heddlu wrth iddyn nhw alw am etholiad cyffredinol cynnar ac ymddiswyddiad y llywodraeth.

Cafodd nifer o bobol eu hanafu yn y brotest ger prif adeilad y llywodraeth.

Bu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio nwy ddagrau i dawelu’r dorf wrth iddyn nhw anelu am adeilad y llywodraeth.

Roedd arweinwyr y gwrthbleidiau’n rhan o’r protestiadau hefyd.

Mae Ilir Meta, arlywydd y wlad, wedi galw ar y protestwyr i roi’r gorau i weithredoedd treisgar.

Mae Albania yn aros i glywed a fyddan nhw’n cael mynediad i’r Undeb Ewropeaidd.