Mae disgwyl i’r ANC ennill etholiadau De Affrica, gyda pholau piniwn yn awgrymu eu bod nhw wedi cipio 57% o’r bleidlais.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi’n swyddogol yn ddiweddarach heddiw (dydd Sadwrn, Mai 11).

Mae 99.9% o’r pleidleisiau wedi’u cyfri erbyn hyn.

Er bod disgwyl i’r blaid ennill, hwn yw eu perfformiad gwaethaf erioed.

Mae’r blaid wedi bod mewn grym ers diwedd aparteid 25 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd Nelson Mandela wrth y llyw.

Dim ond 65% o’r boblogaeth sydd wedi pleidleisio, yn ôl adroddiadau, wrth i lawer o drigolion gadw draw ar ôl cael eu siomi gan lygredd ariannol a arweiniodd at ymadawiad Jacob Zuma, y cyn-Arlywydd, y llynedd.

Mae Cyril Ramaphosa, yr Arlywydd presennol, wedi addo gwella’r sefyllfa gan ymddiheuro wrth y genedl, ond mae e’n wynebu her i’w arweinyddiaeth o’r ANC gan gefnogwyr Jacob Zuma.