Mae Beijing wedi addo dial ar ôl i Arlywydd yr Unol Daleithiau fwy na dyblu’r tollau ar nwyddau o Tsieina.
Mae’r tollau ar nwyddau gwerth £155 biliwn o Tsieina wedi cynyddu o 10% i 25%.
Dywedodd gweinidog masnach Tsieina y byddai’n cymryd “gwrthfesurau angenrheidiol” ond nid oedd wedi rhoi unrhyw fanylion.
Daeth y cynnydd mewn tollau i rym wrth i drafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina gael eu cynnal yn Washington yn y gobaith o ddod a diwedd i’r anghydfod sydd wedi effeithio masnach rhwng y ddwy wlad yn ogystal â’r marchnadoedd arian yn rhyngwladol.
Mae swyddogion yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo Beijing o wneud tro pedol ar ymrwymiadau a gafodd eu gwneud mewn trafodaethau cynharach.
Roedd disgwyl i’r trafodaethau ail-ddechrau heddiw (dydd Gwener, Mai 10) ar ôl dod i ben heb unrhyw gytundeb.
Dywedodd yr Arlywydd Trump ddydd Sul ei fod yn ystyried cynyddu’r tollau ar holl nwyddau Tsieina sy’n cael eu mewnforio i’r Unol Daleithiau.