Mae Gogledd Corea yn disgrifio eu hymarferion diwethaf yn saethu rocedi fel “rhan arferol” o ymarferion amddiffyn y fyddin.

Yn ôl llywodraeth Pyongyang, mae’r feirniadaeth o du De Corea am lansio’r rocedi yn “rwtsh llwyr”.

Daw’r datganiad oriau cyn i swyddogion amddiffyn o Dde Corea, yr Unol Daleithiau, a Japan gyfarfod yn ninas Seoul i drafod yr ymarferion yng Ngogledd Corea ynghyd â materion diogelwch eraill.

Mae De Corea yn galw ar Ogledd Corea I beidio gwneud pethau a allai greu tensiynau.

Mae lansio’r rocedi yn arwydd clir o rwystredigaeth Pyongyang gyda’r diffyg datblygiad yn nhrafodaethau diplomataidd gyda’r Unol Daleithiau, ble’r oedd disgwyl i Washington i ddarparu rhyddhad cosbau nodedig yn gyfnewid am ddiarfogi niwclear.