Mae canlyniadau terfynol etholiad cyffredinol Mawrth 24 yng Ngwlad Thai wedi cael eu cyhoeddi – ond does ddim un blaid â mwyafrif clir.

Fe rannodd Comisiwn Etholiadol y wlad 150 o restr seddi plaid yn Nhŷ’r Cynrychiolwyr, sydd â 500 aelod, o dan fformiwla sy’n ymwneud â chyfran cyfanswm pleidlais boblogaidd pob plaid ar draws y wlad.

Roedd 26 plaid yn cael sedd, gyda 14 yn cael un yr un.

Cafodd y system ei greu er mwyn rhoi cyfle i bleidiau maint canolig na fyddai’n ennill seddi mewn rasys benben rhanbarthol, ond sydd â nifer fawr o bleidleisiau ledled y wlad.

Mae’r diffyg eglurder gan Gomisiwn Etholaethol Gwlad Thai wedi bod yn ddadleuol.

Ddoe (Dydd Mawrth), cafodd pob plaid ei gyfran o’r 350 o seddi etholaeth.

Plaid Pheu Thai sy’n gysylltiedig â’r cyn brif weinidog, Ffo Thaksin Shinawatra, oedd ar y brig, wedi ennill mewn 136 o etholaethau.