Mae ggwrthblaid Twrci yn galw am ddileu canlyniadau etholiadau lleol mewn 39 o ardaloedd yn Istanbwl.

Fe ddaw ar ôl i’r awdurdodau ddileu buddugoliaeth yr wrthblaid yn y ras i ethol maer newydd yn y ddinas a galw am etholiad newydd.

Enillodd Ekrem Imamoglu yn wreiddiol yn erbyn AKP, plaid yr arlywydd Recep Tayyip Erdogan, cyn i’r canlyniad gael ei wyrdroi am nad oedd rhai o swyddogion yr etholiad yn weision sifil.

Mae’r wrthblaid hefyd yn galw am ddileu canlyniad y ras arlywyddol a’r senedd genedlaethol y llynedd, gan ddadlau mai’r un swyddogion oedd yn gweinyddu.