Mae bachgen yn ei arddegau wedi marw, ac wyth disgybl wedi’i hanafu ar ôl i ddau fachgen saethu gwn mewn ysgol yn ninas Denver, Colorado.

Dywed Siryf Douglas County, Tony Spurlock, bod y ddau wedi cerdded i School Highlands Ranch cyn dechrau saethu mewn dwy ystafell ddosbarth.

O fewn munudau, aeth dau ddirprwy o swyddfa’r siryf i’r ysgol ac arestio’r ddau.

Mae’r awdurdodau wedi enwi un o’r saethwyr – Devon Erickson, 18 – ond mae’r ail yn rhy ifanc i’w enwi.

Daw’r saethu bron i dair wythnos ar ôl i dref Littleton nodi 20 mlynedd ers y lladdfa yn ysgol Columbine a laddodd 13 o bobol yn 1999.