Mae dau newyddiadurwr o asiantaeth newyddion Reuters a gafodd eu carcharu ym Myanmar ar ôl adrodd am gamdriniaeth Mwslemiaid Rohingya, wedi cael eu rhyddhau.

Roedd Wa Lone, 32, a Kyaw Soe Oo, 28 wedi cael dedfryd o saith mlynedd ar ôl cael eu dal yn ymchwilio i farwolaeth deg o bobol ym mhentref Inn Din.

Roedd hyn yn mynd yn erbyn Deddf Cyfrinachau Swyddogol y wlad, a chafodd y ddau eu dedfrydu ym mis Medi 2018 ar ôl cael eu cyhuddo o fod ä dogfennau swyddogol yn eu meddiant.

Yn 2017, roedd byddin Myanmar wedi lansio ymgyrch yn rhanbarth Rakhine sydd wedi gorfodi 700,000 o ffoaduriaid Rohingya i ffoi dros y ffin i Bangladesh.

Yn ôl Ysgrifennydd Tramor gwledydd Prydain, Jeremy Hunt, mae’r rhyddhau yn “arwydd prin o obaith” o ran rhyddid y cyfryngau ar draws y byd.

Dywed y cyfreithiwr hawliau dynol Amal Clooney, oedd yn cynrychioli’r newyddiadurwyr, ei bod yn gobeithio bod y newyddion yn arwydd o “ymrwymiad newydd i ryddid y wasg ym Myanmar”.