Mae cyn-brif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi dod allan o’r ysbyty, chwe niwrnod ers iddo gael llawdriniaeth ar ei berfedd… ac mae’n addo dal ati i ymgyrchu i gael ei ethol i Senedd Ewrop.

Mae’r gwleidydd 82 oed yn dweud ei fod wedi cael braw pan gafodd ei gludo i ysbyty San Raffaele yn Milan yr wythnos ddiwethaf.

“Fe wnaeth i mi feddwl fy mod i wedi cyrraedd pen y daith,” meddai. “Ond yn hytrach, mae wedi rhoi ail wynt i mi.”

Ar ôl cael cyfnod o orffwys, mae’n addo bod yn ôl ar y lôn yn ymgyrchu ar deledu, radio ac ar y cyfryngau eraill. Mae’n sefyll tros blaid Forza Italia, y blaid a sefydlwyd ganddo chwarter canrif yn ôl.