Mae’r awdurdodau yn Rwsia yn dweud bod 41 o bobl wedi marw ar ôl tân ar awyren mewn maes awyr ym Mosgo.

Bu’n rhaid i’r awyren Aeroflot lanio ar frys yn fuan ar ôl gadael maes awyr Sheremetyevo ym Mosgo ar ôl i’r tân ddechrau ar fwrdd yr awyren.

Mae’r teithwyr yn awgrymu bod yr awyren wedi cael ei tharo gan fellten ond dywed cwmni Aeroflot bod yr awyren wedi dychwelyd i’r maes awyr am resymau technegol.

Mae dau o blant ymhlith y meirw ac mae pump o bobol yn parhau yn yr ysbyty. Roedd 73 o deithwyr a phum aelod o’r criw ar yr awyren.