Mae raliau mawr wedi cael eu cynnal yn Ne’r Affrig wrth i’r ymgyrchu etholiadol yno boethi.

Fe addawodd yr Arlywydd presennol Cyril Ramaphosa ragor o swyddi a thwf economaidd mewn rali gan y Gyngres Cenedlaethol Affricanaidd (ANC), plaid Nelson Mandela sy wedi bod mewn grym yno ers diwedd apartheid ym 1994.

Dywedodd Mr Ramaphosa: “Mae ein pobol ifanc eisiau swyddi ac mae nhw eisiau nhw nawr.

“Ryda ni yn gwybod be sy angen ei wneud i gynnyddu swyddi, ac i dyfu’r economi.”

Roedd Mr Ramaphosa yn annerch miloedd o’i gefnogwyr yn gwisgo crysau T melyn llachar yn stadiwm Ellis Park, Johannesburg.

Ar ochor arall y ddinas, yn Soweto, daeth miloedd ynghyd i rali wedi ei threfnu gan yr Economic Freedom Fighters, plaid asgell chwith.

Disgwylir y bydd un o arweinwyr y blaid , Julius Malema, yn annerch y rali er gwaethaf marwolaeth ei nain ddoe.

Mae Mr Malema wedi ymgyrchu i ddifeddiannu tir sy’n berchen i bobol wynion heb iawndal ac i genedlaetholi mwyngloddiau’r wlad.

Bydd pobol De’r Affrig yn pleidleisio ar Fai’r 8fed.