Mae Catalwnia yn “profi cyfnod pontio” yn sgil ymdrechion i dynnu’r wlad o wladwriaeth Sbaen.

Dyna farn Jan Bosch de Doria, siaradwr Catalaneg sy’n byw yn Barcelona ac sydd newydd gwblhau gradd meistr ym maes gwleidyddiaeth.

Yn dilyn refferendwm annibyniaeth ar Hydref 1, 2017, pleidleisiodd Senedd Catalwnia tros ddatgan annibyniaeth rhag Sbaen.

Cafodd y camau yma eu gwrthwynebu gan Lywodraeth Sbaen, a flwyddyn a hanner yn ddiweddarach mae’r mater yn parhau’n danllyd.

Barn Jan Bosch de Doria yw bod Catalwnia yn sownd mewn limbo ar hyn o bryd.

“Dydyn ni ddim yn wlad annibynnol,” meddai wrth golwg360. “Mae hynny’n ffaith. Ond mae’r gefnogaeth at annibyniaeth yn parhau’n gryf. Ac mae’n debygol bod y gefnogaeth wedi tyfu.

“Mae’r mudiad annibyniaeth yn cryfhau cam wrth gam. Ar hyn o bryd rydym yn profi cyfnod pontio.

“Rydym yn gwybod o le rydym wedi dod. Dydyn ni methu anghofio Hydref 1. Ond ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod i le yr ydym ni’n mynd. Rydym yn gwybod ein bod eisiau’r weriniaeth.”

Ail refferendwm yn annhebygol?

Er bod awydd am ail refferendwm yng Nghatalwnia, dyw Jan Bosch de Doria ddim yn ffyddiog y bydd hynny’n digwydd. Ac mae hynny’n cyfrannu at deimlad o ansicrwydd, meddai.

“Mae’r pleidiau annibyniaeth yn galw am ail refferendwm, â chydsyniad awdurdodau Sbaen,” meddai. “Mae hyn yn annhebygol o ddigwydd, ond dyna yw eu safiad ar hyn o bryd.

“Maen nhw eisiau ail refferendwm. Rydym yn gofyn am hyn, ond rydym yn gwybod nad yw hynny’n bosib. Felly dydyn ni ddim yn gwybod i ble yr ydym ni’n mynd.”

Catalaneg

Ag yntau’n siaradwr Catalaneg, mae’r gŵr graddedig yn cymharu cyflwr ei iaith â chyflwr y Gymraeg. Mae’n dweud bod ei iaith yntau “mewn cyflwr da”.

“Mae’r sefyllfa ychydig yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru,” meddai. “Catalaneg yw prif iaith ysgolion yma. Pwnc yw Sbaeneg. Felly mae pawb yn siarad Catalaneg.

“Er hynny, dim ond tua 50% o’r boblogaeth sy’n defnyddio Catalaneg yn eu bywydau pob dydd. Mae’r hanner arall yn defnyddio Sbaeneg.”

Iaith ac annibyniaeth

Wrth ystyried y cysylltiad rhwng iaith ag ymgyrchu gwleidyddol, mae Jan Bosch de Doria o’r farn bod y cyswllt yn llacach ym mudiad Catalwnia.

“Dyw’r iaith ddim yn ffactor yn yr ymgyrch annibyniaeth,” meddai. “Sbaeneg yw iaith llawer o bobol sy’n cefnogi annibyniaeth.

“50 blynedd yn ôl, roedd hi fel Cymru yma. Roedd cyswllt rhwng y mudiad annibyniaeth ac iaith …

“Ond mae’r mudiad annibyniaeth wedi denu cefnogaeth y boblogaeth Sbaeneg dros y deg blynedd diwethaf … Felly erbyn heddiw rydym yn gymysgedd.

“Mae yna siaradwyr Sbaeneg yn ogystal â siaradwyr Catalaneg.”