Mae lluoedd diogelwch yn Sri Lanca wedi dod o hyd i 15 o gyrff, gan gynnwys chwech o blant, wrth iddyn nhw gynnal cyrchoedd ar gartrefi nifer o bobol sy’n gysylltiedig â’r ymosodiadau brawychol dros y Pasg.

Wrth i’r cyrchoedd gael eu cynnal ger tref Sammanthurai, ffrwydrodd nifer o bobol ffrwydron a saethu at y swyddogion neithiwr (nos Wener, Ebril 26).

Cafodd o leiaf dri o bobol eraill eu hanafu.

Mae lle i gredu bod nifer o’r rhai fu farw wedi’u hamau o fod ynghlwm wrth yr ymosodiadau, a’u bod nhw wedi lladd eu hunain gyda ffrwydron.

Mae gwasanaethau eglwysig wedi’u gohirio ar draws y wlad am y tro, wrth i’r awdurdodau annog pobol i beidio â mentro allan i addoli.

Ar hyn o bryd, mae’r awdurdodau’n ymchwilio i’r posibilrwydd mai Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau ar ôl iddyn nhw ddod o hyd i’w baneri a fideo gan un o’r arweinwyr.