Mae cadeirydd plaid Geidwadol gwlad Pwyl yn dweud mai “mewnforiad o dramor” yw ymgyrchoedd hawliau i hoywon, a’u bod yn “bygwth y wlad”.

Jaroslaw Kaczynski yw gwleidydd pwysicaf gwlad Pwyl, ac mae’n honni “fod rhaid i bawb dderbyn Cristnogaeth” a bod cwestiynu Pabyddiaeth yn “sarhad”.

Fe wnaeth y gwleidydd ei sylwadau mewn darlith ar wladgarwch ddoe (dydd Mercher, Ebrill 24) yn ninas Wroclawek fis cyn y bleidlais ar Senedd Ewrop ac etholiad cyffredinol yn yr hydref.

Mae ymgyrchoedd hawliau i hoywon wedi dod yn fwy gweledol yn y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.

Er hynny, maen nhw fel arfer yn wynebu protestiadau o’r ochr arall gan grwpiau asgell-dde.

Mae’n ymddangos bod Jaroslaw Kaczynski yn manteisio ar deimladau’r Pwyliaid sy’n teimlo bod gwerthoedd rhyddfrydol yn cael eu gorfodi arnynt.

Mae llawer yn dal yn flin bod eu gwlad wedi ymuno â’r Undeb Ewropeaidd 15 mlynedd yn ôl.