Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, ac arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, yn cael cyfarfod heddiw (dydd Iau, Ebrill 25) i geisio datrys y sefyllfa niwclear yn Pyongyang.

Yn ôl Vladimir Putin, bydd ymweliad Kim Jong Un i Rwisa yn helpu’r ddau i ddeall yn well “beth sydd angen ei wneud i setlo’r sefyllfa yng Ngogledd Corea”.

Daw ymweliad cyntaf arweinydd Gogledd Corea ddeufis ar ôl ei ail gyfarfod gydag arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Aeth honno i’r wal wedi anghytuno oherwydd reolau’r Unol Daleithiau dros hawliau niwclear Gogledd Corea.

Yn y cyfamser mae Vladimir Putin eisiau ehangu dylanwad Rwsia yn y wlad er mwyn cael mwy o ddylanwad dros yr Unol Daleithiau yno.

Wrth siarad cyn y trafodaethau, dywed cynghorydd materion tramor Vladimir Putin Putin, Yuri Ushakov, y bydd Rwsia yn ceisio “atgyfnerthu’r tueddiadau cadarnhaol” sy’n deillio o gyfarfodydd Donald Trump a Kim Jong Un.

Bydd yn ceisio helpu “creu awyrgylch ffafriol er mwyn cyrraedd cytundebau cadarn ar y broblem sy’n bodoli ym Mhenrhyn Corea,” meddai