Mae heddlu Yemen wedi dal o leiaf 5,000 o ffoaduriaid dros y deg diwrnod diwethaf wrth iddyn nhw geisio croesi’r ffîn i Sawdi Arabia.

Daw’r mwyafrif o’r ffoaduriaid o wledydd Affrica, ac mae nifer fawr ohonyn nhw’n cael eu dal mewn gorsafoedd heddlu ym mhob cwr o ddinas Aden.

Yn ôl pennaeth diogelwch Aden, mae’r ffoaduriaid nawr wedi dechrau ymprydio, ac oherwydd hynny mae’r awdurdodau yno yn galw am gymorth gan asiantaethau ffoaduriaid a’r Cenhedloedd Unedig.

Mae ymfudwyr o begwn mwya’ deheuol cyfandir Affrica yn parhau i deithio trwy Yemen wrth geisio bywyd a swyddi yn y gwlff cyfoethog yn Sawdi Arabia.

Maen nhw’n gwneud hyn gan fentro eu bywydau trwy ryfel cartref Yemen.