Mae 58 o bobol bellach wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r ymosodiadau brawychol yn Sri Lanca.

Cafodd 18 eu harestio dros nos, ond mae’r prif weinidog Ranil Wickremesinghe yn rhybuddio bod nifer o ddynion arfog yn dal â’u traed yn rhydd.

Mae’r awdurdodau’n dweud mai eithafwyr Islamaidd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau ar eglwysi, gwestai ac adeiladau eraill, a hynny fis ar ôl y gyflafan mewn mosg yn Seland Newydd.

Dydy Seland Newydd na Sri Lanca ddim wedi cadarnhau’r honiadau, ac mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r FBI yn cynorthwyo’r ymchwiliad hwnnw.

Rhybuddion

Yn y cyfamser, mae Maithripala Sirisena, Arlywydd Sri Lanca, yn galw Ysgrifennydd Amddiffyn a phennaeth yr heddlu i ymddiswyddo.

Mae’n dweud eu bod nhw wedi anwbyddu adroddiadau bod ymsodiad ar y gweill – ymosodiadau a laddodd 350 o bobol.

Mae Daesh, neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’, yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau ddydd Sul (Ebrill 21).

Ond mae un o swyddogion Sri Lanca yn rhoi’r bai ar ddau grŵp eithafol arall.