Doedd yr Unol Daleithiau “heb gael rhybudd” o flaen llaw am ymosodiadau Sri Lanca a laddodd dros 350 ddydd Sul (Ebrill 21).

Daw hyn er i Sri Lanca honni fod swyddogion tramor wedi cael eu rhybuddio bod ymosodiad ar y gweill.

Mae ISIS (y Wladwriaeth Islamaidd) yn dweud mai nhw oedd yn gyfrifol, ac wrth i’r archwiliad i’r ymosodiad barhau, mae swyddogion asiantaeth cudd-wybodaeth (FBI) a byddin yr Unol Daleithiau yn Sri Lanca yn asesu, yn ol y llysgennad Alaina Tepliz.

Wrth wrthod dweud os oedd gan yr Unol Daleithiau wybodaeth ar eithafwyr lleol a’u harweinydd, Mohammed Zahran, yn Sri Lanca, mae Alaina Tepliz yn dweud eu bod yn parhau i bryderu am eithafwyr eraill yn y wlad.

“Roedd rhyw fath o fethiant y system,” meddai wrth gyfeirio at fethiant swyddogion Sri Lanca i rannu’r rhybuddion wnaethon nhw dderbyn.

“Gallaf ddweud wrthych yn bendant na chawsom ein rhybuddio ac nid oedd gennym unrhyw wybodaeth flaenorol am hyn,” dywed wrth newyddiadurwyr tramor o’i swyddfa yn llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Colombo

Cafodd o leiaf 359 o bobol eu lladd a 500 ei hanafu yn yr ymosodiad sy’n nodi trais gwaethaf Sri Lanka ers i’r rhyfel cartref 26 mlynedd ddod i ben ddegawd yn ôl.