Credir fod dros 50 o bobol wedi marw wedi i fwd lithro ar bentref yn Myanmar (Burma).

Hyd yma, mae tri chorff wedi cael eu darganfod, ond mae 54 o bobol yn dal i fod ar goll.

Fe ddigwyddodd y tirlithriad ddoe (dydd Llun, Ebrill 22) yn ardal Hpakant yn nhalaith Kachin.

Nid yw damweiniau fel hyn yn bethau prin, ac fel arfer maen nhw’n digwydd pan fydd tomenni o wastraff o weithfeydd mwyngloddio yn llithro.