Mae 40 o bobol wedi cael eu harestio gan heddlu Sri Lanca yn dilyn yr ymosodiadau sydd wedi lladd 310 o bobol ac anafu bron i 500.

Yn dilyn cyfarfod heddiw mae trefniadau wedi cael eu gwneud i gydweithio gyda gwasanaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau (FBI).

Yn y cyfarfod mae’r gwasanaeth ac asiantaethau cudd-wybodaeth tramor eraill wedi dweud bod rhybuddion o ymosodiadau gan y grŵp Islamaidd eithafol wedi codi wythnosau yn ôl.

Roedden nhw wedi rhybuddio bod y  National Rhowfeek Jamaath wedi cynllunio’r ymosodiadau ond doedd y wybodaeth heb gyrraedd swyddfa’r arlywydd.

Yn ôl gweinidog Iechyd Sri Lanca, Rajitha Senaratne roedd y rhybuddio wedi dechrau ar Ebrill 4 ac roedd y weinidogaeth amddiffyn wedi pasio hyn ymlaen i bennaeth yr heddlu gydag enw’r grŵp.

Ysgrifennodd yr heddlu ar Ebrill 11 at benaethiaid diogelwch o’r farnwriaeth ac at adran ddiogelwch diplomataidd.

Mae arlywydd Sri Lanca wedi rhoi hawliau ehangach i’r fyddin i arestio’r rhai o dan amheuaeth heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23) – pwerau oedd yn cael eu defnyddio yn y rhyfel cartref am 26 mlynedd cyn 2009.

Bu chwe ymosodiad tebyg ar dair eglwys a tri gwesty, a tair o ffrwydron hwyrach ddydd Sul (Ebrill 21).