Mae canlyniadau o bron i bob un gorsaf bleidleisio yn dangos for digrifwr – Volodymyr Zelenskiy – wedi ennill etholiad i fod yn arlywydd yr Wcrain.

Dywedodd y Comisiwn Etholiadau yno fod Mr Zelenskiy wedi ennill 73% o’r bleidlais, tra denodd yr arlywydd presennol while Petro Poroshenko ddim ond 24% o gefnofaeth gyda rhagor na 95% o’r pleidleisiau wedi eu cyfrif.

Un o fwriadau’r seren deledu oedd ceisio uno’r wlad, sydd wedi dioddef ymdrechion i’w thanseilio ac ymosodiadau arni gan luoedd yn cael eu cefnogi gan Rwsia.

Mae rhagor na 13,000 o bobol wedi eu lladd yn y rhyfela dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Wedi’r etholiad, dywedodd Mr Zelenskiy y byddai yn ceisio trafod gyda Rwsia i ddod a’r rhyfela i ben.

Daeth Mr Zelenskiy, 41, yn enwog ledled y wlad am ei bortread digrif o athro ysgol uwchradd sy’n dod yn arlywydd ar deledu yn Wrcain wedi i fideo ohono yn dadlau yn erbyn llygredd fynd yn firol.

Roedd Mr Poroshenko wedi honni y byddai’n arlywydd allai sefyll yn erbyn Rwsia gan ddweud y gallai Zelenskiy fod yn ysglyfaeth hawdd i Moscow.

Roedd miliynau o bobol sy’n cael eu rheoli gan wrthwyfelwyr yn nwyrain y wlad ac yn y Crimea a gafodd ei wladychu gan Rwsia yn methu pleidleiso.

Cipiodd Rwsia y Crimea yn 2014, yr un flwyddyn a hpan ddechreuodd ymladd yn nwyrain y wlald.