Mae protestwyr wedi ymosod ar arweinydd gwrthblaid Twrci yn ystod angladd milwr.

Cafodd y milwr ei ladd yn ystod gwrthdaro â gwrthryfelwyr Cwrdaidd.

Mae deunydd fideo yn dangos yr ymosodiad ar Kemal Kilicdaroglu, wrth iddo gael ei dywys i ffwrdd o’r dorf.

Enillodd yr wrthblaid seddau yn Ankara ac Istanbul yn etholiadau’r wlad ar Fawrth 31, wrth i’r Arlywydd Recep Tayyip Erdogan golli tir.

Fe wnaeth yr arlywydd gymharu’r gwrthbleidiau â brawychwyr.