Mae Gogledd Corea yn honni eu bod wedi cynnal arbrawf ag “arf tactegol newydd”.

Yn ôl gwasanaeth newyddion y wlad, cafodd yr arf ei danio ar ddydd Mercher (Ebrill 17) ac roedd eu harweinydd, Kim Jong Un, yn dyst i hynny.

“Wrth ddatblygu sustem arfog newydd byddwn yn cryfhau nerth milwrol ein byddin,” meddai.

Dyw hi ddim yn glir pa fath o arf sydd wedi cael ei danio, a does dim sicrwydd chwaith bod yr arbrawf wedi cael ei gynnal o gwbl.

Mae un arbenigwr yn Ne Corea yn tybio mai taflegryn yw’r arf dan sylw.

Pam tanio?

Daw’r arbrawf honedig yn sgil cyfarfod aflwyddiannus rhwng Kim Jong Un ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.

Ymgais oedd y cyfarfod hwnnw i ddarbwyllo Gogledd Corea i gefnu ar eu prosiect arfau niwclear.

Ac mae’n ddigon posib bod y wlad wedi cynnal y profion er mwyn lleisio’u hanfodlonrwydd â’r trafodaethau.